Am lawer o rhesymau dw i'n rhy ddiog (neu'n rhy hen erbyn hyn) i bori drostyn nhw unwaith yn rhagor o ran y diffyg adnoddau addas a phwrpasol ar gyfer addysgu Cymraeg sy'n seiliedig ar yr ymchwil mwyaf diweddar caffael ail-iaith, ac yn llai byth o ran y sector cyfrwng Saesneg, hoffwn i gynnig nifer o syniadau sylfaenol er mwyn trafod ymhellach. Y bwriad ydy symud y ddadl ymlaen at gynnig ddatrysiadau posib i'r holl mater.
Ar gyfer dysgwyr, mae'n rhaid dethol cynnwys o ran patrymau, cysyllteiriau, ansoddeiriau ac ati ar gyfer pawb ar hyd continwwm hyd at level canolig. Dylid hefyd dethol ffurfiau safonol er mwyn cadarnhau'r ffurfiau llawn cyn symud at ffurfiau lleol a thafodieithol ymhellach ar hyd y continwwm. Basai hyn yn sicrhau bod cynnwys pendant i bawb a gosod sylfaen lle bo modd rhannu adnoddau effeithiol yn hawdd a gosod sylfaen cadarn.
Dylai fod llawer mwy o gyd-weithio a chyd-rannu o ran dulliau addysgu darllen, gan gynnwys ffoneteg a deallusrwydd rhwng y sector cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn gynnar iawn ar y continwwm. Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr bod dulliau gwahanol rhwng y ddwy sector wrth addysgu sut i ddarllen; sydd wrth gwrs yn gosod y sylfaen ar gyfer cynnydd ac hyfedredd yn y pen draw. Mae'r gwaith caib a rhaw yma yn gynnar ym mhrofiad y dysgwyr yn hollol bwysig i sicrhau llwyddiant a hunaneffeithlonrwydd.
Mae'n hynod bwysig ein bod ni'n datblygu mwy o arbenigedd nid yn unig o ran safonau iaith ond hefyd o ran wybyddiaeth am bedagogeg caffael ail-iaith gan dynnu ar y gorau o ddulliau TPRS, CLIL, EPI, AIM a'r dulliau amrywiol eraill megis cyfathrebol a gramadegol cyfieithu i enwi rhai eraill. Mae cryfderau a gwendidiau ym mhob un ohonynt ac mae ffafrio un dull dros y llall ddim yn ddigonol gan gysidro'r diffyg amser cyswllt a'r gwahanieithau rhwng Saesneg a Chymraeg o ran ffurfiau gramadegol a ffwythiannau anghyfarwydd. Mae angen i ni ddatblygu adnoddau sy'n cefnogi'r ymchwil a phedagogeg os ydyn ni am lwyddo yn y menter o greu siaradwyr gweithredol yn y dyfodol. Mae yna lawer o wledydd ar draws y byd sy wedi llwyddo ac mae rhaid tynnu ar eu profiadau nhw i gyd er mwyn bwydo i mewn i'r arbenigedd yma.
Mae angen datblygu continwwm glir y mae pawb yn gallu deall. Mae angen fframwaith llawer mwy pendant a'r camau yn glir o ran cynnydd. Mae ACFL a CEFR yn barod ar gael ac yn seiliedig ar ffwythiannau cyfathrebol synhwyrol sy'n addas am y byd go iawn. Dylai'r pwyslais fod ar mewnbwn ddealladwy a llwyrddfoddi iaith trwy'r sgiliau gwrando a darllen a chynllunio yn craf iawn ar gyfer allbwn pan mae'r dysgwyr yn barod.
Mae angen i bawb ddeall y camau ar hyd y llwybr o'r cyfnod sylfaen at addysg bellach ac uwch. Mae angen trosglwyddo data o ran hyfedredd ac nid perfformiad a deall bod dysgwyr yn gwneud cynnydd ar amseroedd gwahanol ac mae rhaid i ni osgoi ail-ddechrau ar dechrau bob cyfnod ysgol. Dylai pob cam adeiladu ar y cam blaenorol yn llyfn ac yn effeithiol.
Rhaid sicrhau bod mwy o gyfleoedd i ddysgwyr clywed yr iaith yn naturiol o gwmpas yr ysgol a thu allan i'r ysgol. Anodd iawn dysgu unrhywbeth mewn gwagle. Dyma le y gall technoleg a deunyddiau pwrpasol cefnogi hyn hefyd lle mae'r dysgwyr yn byw mewn ardal lle mae'r iaith yn wan.
Mae llawer mwy i ategu at hyn wrth gwrs ond dyma'r chwe phwynt sylfaenol i'w hystyried os ydyn ni wir am lwyddo o ran gwella ar hyn sy'n bodoli eisioes. Dydy creu rhyw ddulliau newydd sy'n arbennig i ni yng Nghymru gan anwybyddu profiadau dynoliaeth o ran y ffordd gorau i gyflwyno a meithrin iaith yn dwp ac yn wastraff amser, egni ac arian. Yn y diwedd ai fater ysgolheigaidd neu'n wleidyddol sy'n atal tyfiant organig o fewn y gweithlu ac ar lawr gwlad? Nefoedd wen, mae llawer o wledydd yn ddwyieithog ac yn aml-ieithog yn bodoli eisioes yn ein byd ac felly pam ydyn ni'n ceisio creu rhywbeth newydd heb sail na thystiolaeth? Ydy'r Cwricwlwm Newydd yn gam ymlaen neu gam rhy bell? Deor neu lladd wnawn ni yn y diwedd! Mae'n hen bryd i symud yr holl ddadl i ffwrdd o wleidyddiaeth ac yn agosach at realiti! A oes heddwch! Dim o bell ffordd - gweler ymgyrch Cymdeithas yr Iaith mwyaf diweddar am gipolwg i'r dyfnderoedd!
#15MFCymru
No comments:
Post a Comment