Translate

Sunday, 17 May 2020

Teaching and Learning: Welsh




For many reasons I'm too lazy to go over again in terms of the lack of suitable and appropriate resources for teaching Welsh based on second language acquisition research, especially in the English-medium sector, I'd like to propose a number of ideas for further discussion and hopefully move the debate forward and offer some solutions to the whole issue.

 

● For learners, the content in terms of patterns, connectives, adjectives etc must be selected for all learners along the continuum up to intermediate level. Standard forms should also be selected to establish the full standard forms before moving on to local and dialectal forms further along the continuum. This would ensure that there is explicit content for all and a foundation where effective resources can be easily shared and a solid foundation on which to make progress across sectors and age groups. 

      

● There should be much more effective co-operation and sharing of approaches to teaching reading and listening, including phonics and comprehension between the English and Welsh-medium sector very early on along the continuum. It doesn't make sense that there are different approaches between the two sectors when teaching how to read; which of course lays the foundation for progress and ultimately proficiency or functional competency. This foundational work in the learners' experience is of paramount importance to success and self - efficacy .  

     

● It is extremely important that we develop more expertise not only in terms of language standards but also in cognition of the pedagogy of second language acquisition; drawing on the best of TPRS , CLIL , EPI , AIM and the various other methods such as communicative and grammatical translation to name others . They all have strengths and weaknesses and favouring one method over the other is not sufficient considering the lack of contact time and the differences between English and Welsh in terms of grammatical forms and unfamiliar structures. We need to develop resources that support the research and pedagogy if we are to succeed in the initiative of creating active speakers in the future. There are many countries around the world that have succeeded and all of their experiences must be drawn upon to feed into this developing expertise.       


A clear continuum needs to be developed that everyone can understand. There needs to be a much more definite framework with clear steps for progression. The ACFL and CEFR are already available and are based on the communicative functions that are suitable for the real world. The emphasis should be on comprehensible input and flooding the input and promoting acquisition through listening and reading skills with careful planning for output when the learners are ready.       
 

● Everyone needs to understand the steps along the continuum from the foundation phase to further and higher education. It is necessary to transfer data in terms of proficiency and not performance and understand that learners make progress at different times and we must avoid re-starting their learning at the beginning of each school phase. Each step should build on the previous step smoothly and effectively. 

      

● There must be more opportunities for learners to hear and use the language naturally around school and outside of the school. Very difficult to learn anything in a vacuum. This is where technology and bespoke materials can support where learners live in an area where the language is weak or opportunities limited.       

 

There is much more to add to this but here are the 6 most important points to consider if we are to succeed. Creating some new approaches that are special to us in Wales is stupid and a waste of time and ultimately a scholarly or political issue that inhibits organic growth within the workforce and the grassroots. Many countries are bilingual and multilingual so why are we trying to create something new without a solid basis or convincing research evidence?


#15MFCymru

 

Saturday, 16 May 2020

Dysgu ac Addysgu: Cymraeg



Am lawer o rhesymau dw i'n rhy ddiog (neu'n rhy hen erbyn hyn) i bori drostyn nhw unwaith yn rhagor o ran y diffyg adnoddau addas a phwrpasol ar gyfer addysgu Cymraeg sy'n seiliedig ar yr ymchwil mwyaf diweddar caffael ail-iaith, ac yn llai byth o ran y sector cyfrwng Saesneg, hoffwn i gynnig nifer o syniadau sylfaenol er mwyn trafod ymhellach. Y bwriad ydy symud y ddadl ymlaen at gynnig ddatrysiadau posib i'r holl mater.

  • Ar gyfer dysgwyr, mae'n rhaid dethol cynnwys o ran patrymau, cysyllteiriau, ansoddeiriau ac ati ar gyfer pawb ar hyd continwwm hyd at level canolig. Dylid hefyd dethol ffurfiau safonol er mwyn cadarnhau'r ffurfiau llawn cyn symud at ffurfiau lleol a thafodieithol ymhellach ar hyd y continwwm. Basai hyn yn sicrhau bod cynnwys pendant i bawb a gosod sylfaen lle bo modd rhannu adnoddau effeithiol yn hawdd a gosod sylfaen cadarn.
     
  • Dylai fod llawer mwy o gyd-weithio a chyd-rannu o ran dulliau addysgu darllen, gan gynnwys ffoneteg a deallusrwydd rhwng y sector cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn gynnar iawn ar y continwwm. Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr bod dulliau gwahanol rhwng y ddwy sector wrth addysgu sut i ddarllen; sydd wrth gwrs yn gosod y sylfaen ar gyfer cynnydd ac hyfedredd yn y pen draw. Mae'r gwaith caib a rhaw yma yn gynnar ym mhrofiad y dysgwyr yn hollol bwysig i sicrhau llwyddiant a hunaneffeithlonrwydd.
     
  • Mae'n hynod bwysig ein bod ni'n datblygu mwy o arbenigedd nid yn unig o ran safonau iaith ond hefyd o ran wybyddiaeth am bedagogeg caffael ail-iaith gan dynnu ar y gorau o ddulliau TPRS, CLIL, EPI, AIM a'r dulliau amrywiol eraill megis cyfathrebol a gramadegol cyfieithu i enwi rhai eraill. Mae cryfderau a gwendidiau ym mhob un ohonynt ac mae ffafrio un dull dros y llall ddim yn ddigonol gan gysidro'r diffyg amser cyswllt a'r gwahanieithau rhwng Saesneg a Chymraeg o ran ffurfiau gramadegol a ffwythiannau anghyfarwydd. Mae angen i ni ddatblygu adnoddau sy'n cefnogi'r ymchwil a phedagogeg os ydyn ni am lwyddo yn y menter o greu siaradwyr gweithredol yn y dyfodol. Mae yna lawer o wledydd ar draws y byd sy wedi llwyddo ac mae rhaid tynnu ar eu profiadau nhw i gyd er mwyn bwydo i mewn i'r arbenigedd yma.
     
  • Mae angen datblygu continwwm glir y mae pawb yn gallu deall. Mae angen fframwaith llawer mwy pendant a'r camau yn glir o ran cynnydd. Mae ACFL a CEFR yn barod ar gael ac yn seiliedig ar ffwythiannau cyfathrebol synhwyrol sy'n addas am y byd go iawn. Dylai'r pwyslais fod ar mewnbwn ddealladwy a llwyrddfoddi iaith trwy'r sgiliau gwrando a darllen a chynllunio yn craf iawn ar gyfer allbwn pan mae'r dysgwyr yn barod.
     
     
  • Mae angen i bawb ddeall y camau ar hyd y llwybr o'r cyfnod sylfaen at addysg bellach ac uwch. Mae angen trosglwyddo data o ran hyfedredd ac nid perfformiad a deall bod dysgwyr yn gwneud cynnydd ar amseroedd gwahanol ac mae rhaid i ni osgoi ail-ddechrau ar dechrau bob cyfnod ysgol. Dylai pob cam adeiladu ar y cam blaenorol yn llyfn ac yn effeithiol.
     
  • Rhaid sicrhau bod mwy o gyfleoedd i ddysgwyr clywed yr iaith yn naturiol o gwmpas yr ysgol a thu allan i'r ysgol. Anodd iawn dysgu unrhywbeth mewn gwagle. Dyma le y gall technoleg a deunyddiau pwrpasol cefnogi hyn hefyd lle mae'r dysgwyr yn byw mewn ardal lle mae'r iaith yn wan.

Mae llawer mwy i ategu at hyn wrth gwrs ond dyma'r chwe phwynt sylfaenol i'w hystyried os ydyn ni wir am lwyddo o ran gwella ar hyn sy'n bodoli eisioes. Dydy creu rhyw ddulliau newydd sy'n arbennig i ni yng Nghymru gan anwybyddu profiadau dynoliaeth o ran y ffordd gorau i gyflwyno a meithrin iaith yn dwp ac yn wastraff amser, egni ac arian. Yn y diwedd ai fater ysgolheigaidd neu'n wleidyddol sy'n atal tyfiant organig o fewn y gweithlu ac ar lawr gwlad? Nefoedd wen, mae llawer o wledydd yn ddwyieithog ac yn aml-ieithog yn bodoli eisioes yn ein byd ac felly pam ydyn ni'n ceisio creu rhywbeth newydd heb sail na thystiolaeth? Ydy'r Cwricwlwm Newydd yn gam ymlaen neu gam rhy bell? Deor neu lladd wnawn ni yn y diwedd! Mae'n hen bryd i symud yr holl ddadl i ffwrdd o wleidyddiaeth ac yn agosach at realiti! A oes heddwch! Dim o bell ffordd - gweler ymgyrch Cymdeithas yr Iaith mwyaf diweddar am gipolwg i'r dyfnderoedd!

#15MFCymru