Trafodaeth |
Sut mae creu amgylchedd pwrpasol a iachus am ddatblygu'r Gymraeg o fewn Cwricwlwm i Gymru?
Ers i mi fod yn athro 'Cymraeg Ail-iaith' yn gweithio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, rydw i wedi fy syfrdannu dros y blynyddoedd am y diffyg cyd-weithio a chyd-dynnu rhwng ysgolion a rhwng sectorau cyfrwng Saesneg (CS) a chyfrwng Cymraeg (CC).
Pam yn y byd mae hyn wedi digwydd a pha mor drist ydy hi bod yna rhwygiadau ieithyddol ac addysgiadol yn dal i fodoli mewn gwlad mor fach a ni? Beth sy wedi creu'r sefyllfa dwy haen aneffeithiol yma ac a oes gobaith am y dyfodol?
Yn gyntaf, yr unig rheswm am y diffyg cyd-weithio rhwng ysgolion CS yn fy mhrofiad i ydy diffyg hyder a chystadleuaeth. Mae pawb eisiau'r adran 'gorau' ac i fod ar flaen y gad o ran safonau TGAU a niferoedd Level-A. Fy marn bersonol ydy bod y diffyg arweiniad, darpariaeth ac adnoddau ar gyfer y sector wedi creu awyrgylch od ac afiach lle mae gofyn i athrawon datblygu adnoddau ei hun yn gyson er mwyn ceisio codi safonau; ac mae hyn yn waith caled sy angen arbenigedd a dealltwriaeth dda o bedagogeg i gyflawni'n effeithiol. Ar y llaw arall, mae rhai yn chwilio am adnoddau ac yn gofyn yn gyson am gopi o hyn a'r llall ond yn anhebyg iawn o gyfrannu unrhywbeth newydd neu addasiad i'w rhannu. Canlyniad hyn oll ydy bod llawer o athrawon CS yn tueddu cadw pethau yn agos i'w brest ac yn tueddu peidio rhannu achos bod nhw'n ofni bydd rhywun arall yn elwa o'u gwaith caled neu derbyn dim cydnabyddiaeth amdano. Wrth gwrs, rwy'n sicr bod hyn yn wahanol o ardal i ardal ond mae'n bodoli credwch chi fi!
Yn y gorffennol, roeddwn i a chyd-weithiwr wedi creu gofod i athrawon rhannu adnoddau i gefnogi ein gilydd fel sector, i hwyluso'r baich creu ac i ddatblygu dulliau effeithiol er lles pawb. Cynigion ni ddau llawer o adnoddau fel man cychwyn a gweithio'n galed iawn i gadw drefn ar bopeth ar ben ein gwaith bob dydd. Yn ddiddorol iawn dim ond canran bach o'r rhai oedd yn rhan o'r gofod oedd yn fodlon i gynnig adnoddau, felly penderfynon ni i ofyn am adnodd gan bawb er mwyn chwyddo'r deunyddiau. Cododd dau beth diddorol allan o'r fenter. Roedd nifer o'r athrawon yn ofni rhannu eu hadnoddau o achos diffyg hyder ac yn poeni doedden nhw ddim yn digon da! Tybed pam? Roedden nhw'n poeni am safon yr adnoddau ac yn ymddiheuro'n gyson! I fod yn gwbwl onest roedd cwpwl o typos fan hyn a fan draw a dyna gyd - sy'n hawdd i ddatrys gyda chyd-weithio a chyd-dynnu pwrpasol. Yr ail-beth gododd o'r fenter oedd piodu. Cawsom nifer o adnoddau gan athrawon oedd yn adnoddau creuon ni yn y lle cyntaf ond bod yr ysgol wedi rhoi bathodyn eu hysgol nhw arnynt gan tynnu ein rhai ni. Am beth rhyfedd i wneud?
Nawr, dw i'n falch i ddweud mae pethau wedi newid rhywfaint ac mae HWB wedi cynnig gofod i rhannu adnoddau trwy ei rhwydweithiau. Ar y cyfan, mae'r llefydd yma'n cael ei rhedeg gan consortia ac mae llawer o adnoddau da ar gael ynddynt heb os nac oni bai. Ar y llaw arall, wrth edrych yn fanylach, nifer fach o athrawon sy'n uwchlwytho deunyddiau ond llawer iawn o lawrlwytho sy'n tueddu cefnogi profiadau personol bod diffyg hyder neu rhywbeth bryderus yn dal i fodoli o fewn y sector.
Mae nifer o adroddiadau eitha tor-galonnus wedi bod o ran y CS ac er bod 'TGAU Ail-Iaith' fel label yn dal i fodoli, mae'n amlwg bod lle am obaith. Cawsom erthygl gwych gan Alex Lovell yn ddiweddar yn trafod y sefyllfa, y problemau a'r gobeithion gyda'r cwricwlwm newydd ac mae llawer i fod yn bositif amdano. Serch hyn a'r holl drafod o ran targedau'r llywodraeth 2050, rhaid i ni cydnabod a chyd-weithio i ddatrys y diffyg hyder a'r awyrgylch cystadleuol rhwng ysgolion CS er mwyn gwireddu cynnydd go iawn.
Yr ail-gonsyrn sy gen i ydy'r rhwyg sy'n bodoli rhwng CS a CC. Yn fy mhrofiad i, dw i wedi ceisio datblygu cysylltiadau gyda ysgolion CC sawl tro i geisio cyd-dynnu ar brofiadau, dulliau ac arbenigedd ond wedi dod ar draws gwagle bob tro. Eto, mae llawer o rhesymau posib dros hyn oll ond rhaid cydnabod fod yn glwyd i neidio wrth symud ymlaen i'r oes newydd euraidd Cwricwlwm i Gymru.
Ystyriwch y termau iaith gyntaf ac ail-iaith. Nawr, termau naturiol i ddisgrifio gaffaeliaid gwahanol ieithoedd ym mhrofiadau'r dysgwyr ydyn nhw ac yn termau technegol ym maes Caffael Ail-Iaith. Yn anffodus, mae'r termau yn creu rhwyg ieithyddol yma yng Nghymru. Clywais brifathro ysgol CC yn datgan bod 80% o'r disgyblion yn ei ysgol yn blant 'ail-iaith'. Ffeithiol gywir megis disgyblion lle nad yw'r Gymraeg yn iaith yr aelwyd a bod iaith-gyntaf yn derm sy'n disgrifio disgyblion lle mae'r Gymraeg yn iaith yr aelwyd. Felly yng-nghyd destun hyn oll, mae CS yn cwympo i mewn i gategori arall sy mewn gwirionedd yn debyg i ITM!
Nawr, dw i'n cydnabod bod sefyllfa CS yn wahanol i ITM oherwydd bod disgwyliad statudol i'r dysgwyr derbyn gwersi Cymraeg yn y cynradd er bod problemau amlwg o achos pwysau pynciau eraill ac athrawon arbenigol ieithyddol sy'n hyderus yn y Gymraeg hefyd. I gyd-bwyso mae llawer o waith arbennig o dda yn mynd ymlaen a llawer o gefnogaeth trwy'r consortia a'r Siarter Iaith a Cymraeg Campus ac ati sy'n wych. Fydd hyn yn ddigonol i ddod i afael a'r wir broblem?
Mae engraifft o hyn wedi codi yng nghyd-destun trafodaeth diweddar ar y blog ac addysgu sgiliau darllen. Faint o gyd-weithio sy'n bodoli rhwng CC a CS o ran dulliau dysgu darllen yn y ddwy iaith? Beth am arbenigedd o ran datblygu sgiliau dadgodio geiriau a ffoneteg? Faint o bwyslais sy yn yr ysgolion CS ar hyn o ran y Gymraeg? Fel cofodd ei ddweud sawl tro erbyn hyn, mae darllen yn sgil hanfodol i gasglu gwybodaeth ac yn arwain at dyfiant a chynnyd yr unigolyn. Mae'r holl beth yn ddryslyd iawn i mi os ydyn ni wir eisiau newid pethau er gwell y Gymraeg.
Oes gobaith am y dyfodol? Beth mae rhaid i ni wneud nawr wrth symud tuag at y Cwricwlwm Newydd?
Cyd-weithio a chyd-dynnu yn sicr ond yn lle cystadlu yn erbyn ein gilydd beth am drafod a rhannu arbenigedd er lles pawb!
15 Minute Forum Cymru
No comments:
Post a Comment